top of page

APÊL Y STAFELL FYW

Mae’r Stafell Fyw yn ganolfan adfer sy’n cynnig cymorth hirdymor am ddim i bobl yr effeithir arnynt gan bob math o gaethiwed. Nid oes tâl i fynychu, dim terfyn amser, ac ni chaiff neb ei wrthod.

​

Mae’r Stafell Fyw bellach angen eich help.

​

Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, fe wnaethom adael Adferiad Recovery er mwyn adennill ein hannibyniaeth a diogelu’r hyn sy’n gwneud y Stafell Fyw yn unigryw — ei dull “pob caethiwed” a’i hathroniaeth. Mae hynny’n bwysig, ond mae hefyd yn golygu bod angen i ni brofi ein bod yn gallu sefyll ar ein traed ein hunain.

​

Rydym felly’n gofyn i ffrindiau a chefnogwyr ymrwymo i £10 y mis am flwyddyn, gan ddechrau ym mis Ebrill 2026.

​

Rydym wedi cynnal y Stafell Fyw drwy ei blwyddyn annibynnol gyntaf. Er mwyn bod yn gymwys ar gyfer cyllid cyhoeddus yn y dyfodol, rhaid inni wneud yr un peth eto. Mae’r Ymddiriedolwyr wedi gosod targed o £35,000 erbyn Ebrill 2027.

​

Gyda digon o bobl yn rhoi £10 y mis, gallwn sicrhau bod y Stafell Fyw yn parhau i gynnig cymorth am ddim, heb derfyn amser, i’r rhai sydd ei angen fwyaf.

​

Mae manylion ar sut i roi rhodd fisol ynghlwm, yn ogystal â ffurflen Rhodd Cymorth, y mae'n rhaid i chi ei chwblhau, os ydych yn gymwys i dalu treth, a'i dychwelyd atom ni yn y cyfeiriad sydd ar waelod y ffurflen Rhodd Cymorth.

​

Diolch o galon am ystyried y cais hwn.

​

Yn gywir,

 

Wynford Ellis Owen

Sylfaenydd a Phrif Weithredwr y Stafell Fyw

​

O.N. Trwy gefnogi’r apêl hwn, rydych yn helpu i amddiffyn dull annibynnol o adfer — un sy’n rhoi pobl yn gyntaf cyn prosesau a ffiniau amser.

​

LAWRLWYTHWCH
Teflen Ffrindiau'r Stafell Fyw (PDF, 945kb)

Ffurflen Rhodd Gymorth y Stafell Fyw (PDF, 426kb)
Living Room Gift Aid Form (PDF, 426kb)

WEO.png

Wynford

Wedi gyrfa o 40 blynedd ym myd y theatr a theledu fel actor, sgwennwr a chyfarwyddwr – ef fu’n gyfrifol am greu’r cymeriadau eiconig, Syr Wynff a Plwmsan a’r cyfresi comedi gyflwynodd inni gymeriadau echreiddig Llanllewyn yn, Porc Peis Bach i S4C - dychwelodd Wynford i’r coleg i’w gymhwyso’n therapydd ym 2006. Yn fuan wedyn penodwyd ef yn brif weithredwr ar Gyngor Cymru ar Alcohol a Chyffuriau eraill. Arweiniodd hynny, ym 2011, at sefydlu Stafell Fyw Caerdydd, y ganolfan gymuned enwog sy’n cynnig triniaeth, cefnogaeth ac ôl-ofal i bobl sy’n dioddef o bob math o ddibyniaethau ac ymddygiadau niweidiol eraill, a’u teuluoedd. Ymddeolodd o’r swydd honno ym 2017, a chael ei gyflogi’n syth fel Ymgynghorydd Cwnsela Arbenigol i CAIS, rhiant gwmni’r Stafell Fyw, er mwyn ymestyn y gwasanaeth i rannau eraill o Gymru a gofalu am rai mentrau penodol fel Cynnal, y gwasanaeth cwnsela i glerigwyr, gweinidogion yr efengyl, gweithwyr Cristnogol, a’u teuluoedd; Curo’r Bwci, y gwasanaeth i gamblwyr eithafol; ac Enfys, y gwasanaeth cenedlaethol i Feddygon a gweithwyr meddygol eraill. Ef hefyd sy’n arwain holl enciliadau’r Stafell Fyw. Pan unodd CAIS a dwy elusen arall i ffurio, Adferiad Recovery, ym 2021, parhaodd i ofalu am Cynnal, Enfys – ac, yn ddiweddarach, y Stafell Fyw, oedd wedi symud erbyn hynny i ran arall o Gaerdydd. Mae’n credu mai salwch ysbrydol yw dibyniaeth sy’n mynnu datrysiad ysbrydol. Wrth edrych ymlaen at ddathlu 33 mlynedd o sobrwydd yr haf hwn, dywedodd, “Er mwyn newid natur pethau, bu raid imi newid nid y digwyddiadau, ond y meddyliau rheini a greodd y digwyddiadau yn y lle cyntaf.” Mae’n awdur ar dri llyfr hyd yma, a nifer o ddramau llwyfan a radio, ac yn Gymrawd Ymddiriedolaeth Churchill. Ef hefyd ennillodd Wobr Ysbrydoli Cymru’r IWA a’r Western Mail ym 2014, ac mae’n golofnydd rheolaidd i GOLWG, y cylchgrawn wythnosol. Mae’n briod â Meira, arwres ei hunangofiant, Raslas bach a mawr! (Gomer, 2004); yn dad i Bethan a Rwth; ac yn daid balch iawn i Begw, Efa, Bobi, Jac a Jesi Iris. Mae dychweld yn awr at y Cyngor ar Alcohol a Chyffuriau Eraill, lle dechreuodd ei yrfa gwnsela, i arwain y Stafell Fyw, Cynnal, a’r fenter Ar-lein chwyldroadol, newydd, Lle I Fyw, er mwyn ymestyn y gwasanaethau hyn, nid yn unig i Gymru gyfan, ond i’r byd.He is the author of three books to date, and numerous stage and radio plays, and a Churchill Trust Fellow. He also won the IWA and Western Mail Inspire Wales Award in 2014, and is a regular columnist for GOLWG, the weekly magazine. He is married to Meira, the heroine of his autobiography, Raslas bach a mawr! (Gomer, 2004); father of Bethan and Rwth; and a very proud grandfather to Begw, Efa, Bobi, Jac and Jesi Iris. He now returns to the Council on Alcohol and Other Drugs, where he began his counselling career, to lead the Living Room, Cynnal, and the revolutionary, new Online initiative, A Place To Live, to extend these services, not just to the whole of Wales.

bottom of page