top of page

WYNFORD ELLIS OWEN YN DERBYN ANRHYDEDD - GWOBR OES WEITHREDOL STERNBERG 2026

16 Apr 2026

WYNFORD ELLIS OWEN YN DERBYN ANRHYDEDD - GWOBR OES WEITHREDOL STERNBERG 2026

Enwebwyd Wynford Ellis Owen arloeswr adferiad, cynghorydd a sylfaenydd y Stafell Fyw, yn un o enillwyr clodwiw Gwobr Bywyd Gweithredol Sternberg y Times 2026.

 

Mae’r wobr yn cydnabod cyfraniadau anhygoel i fywyd cyhoeddus a’r gymuned a wnaed ar ôl 70 oed. Sefydlwyd yn 2008 gan Syr Sigmund Sternberg mewn partneriaeth gyda’r Times, ac mae’r gwobrau’n dathlu unigolion lle mae eu blynyddoedd hŷn wedi’u nodi gan wasanaeth, newyddbeth ac effaith eithriadol ac anhygoel.

 

Am fwy na degawd, bu Wynford Ellis Owen yn un o leisiau mwyaf dylanwadol Cymru o safbwynt adferiad o ddibyniaeth. Wedi gyrfa glodwiw o ddeugain mlynedd mewn theatr a theledu fel ysgrifennwr, actor, hyfforddwyd ef mewn ymgynghori ar ddibyniaeth ac aeth ymlaen i sefydlu’ Stafell Fyw, canolfan adfer dan arweiniad cyfoedion er mwyn cefnogi pobl sy’n cael eu haffeithio gan ddibyniaeth yng Nghaerdydd a thu hwnt.

 Daeth y Stafell Fyw, â chefnogaeth tymor hir, ymgynghori ac ôl-ofal i bobl sy’n gwella o ddibyniaeth ar alcohol a chyffuriau ynghyd â gamblo, hunan-niwed ac ymddygiadau niweidiol eraill. Roedd ei waith yn helpu i herio stigma o gwmpas dibyniaeth ac yn dangos pŵer cariad cymuned a chefnogaeth cyfoedion mewn adferiad hirdymor.

 

Heddiw, mae Wynford yn parhau i wasanaethu fel ymgynghorydd cwnsela arbenigol i’r Stafell Fyw a’i sefydliad cysylltiol gan helpu i ymestyn gwasanaethau adfer ar draws Cymru  a rhoi cymorth i glerigwyr a gweithwyr meddygol drwy raglenni ymgynghori penodol a chynnal encilfeydd a hyfforddiant adfer dan arweiniad un o leisiau mwyaf dylanwadol Cymru o safbwynt adferiad.

Dyma sylw Wynford Ellis Owen am y wobr:

 

“Mae’n anrhydedd anferthol i dderbyn y gydnabyddiaeth hon. Mae adferiad yn bosibl i bawb a chredais erioed  bod pobl yn gwella orau pan fyddan nhw’n derbyn cariad, cefnogaeth a gobaith. Mae’r wobr hon yn perthyn nid yn unig i fi ond i bawb sydd wedi bod yn rhan o gymuned y Stafell Fyw dros y blynyddoedd.”

 

Bydd Wynford yn cael ei gydnabod yn ffurfiol mewn derbyniad yn 11 Stryd Downing ar 23 Ebrill 2026 gan Michael Sternberg, Cadeirydd Sefydliad Elusennol Syr Sigmund Sternberg.

Mae cydnabyddiaeth Wynford Ellis Owen yn adlewyrchiad nid yn unig o’i siwrne adfer bersonol ond hefyd ei etifeddiaeth barhaus wrth greu llwybrau gobaith, urddas a chefnogaeth i filoedd o bobl ar draws Cymru.

bottom of page