top of page

Y SENEDD YN DATHLU 15fed PENBLWYDD Y STAFELL FYW

Keira Marshall

​

​

Y SENEDD YN DATHLU 15fed PENBLWYDD Y STAFELL FYW

Cliciwch yma i wylio'r darn ar SeneddTV

WEO.png

Wynford

Wedi gyrfa o 40 blynedd ym myd y theatr a theledu fel actor, sgwennwr a chyfarwyddwr – ef fu’n gyfrifol am greu’r cymeriadau eiconig, Syr Wynff a Plwmsan a’r cyfresi comedi gyflwynodd inni gymeriadau echreiddig Llanllewyn yn, Porc Peis Bach i S4C - dychwelodd Wynford i’r coleg i’w gymhwyso’n therapydd ym 2006. Yn fuan wedyn penodwyd ef yn brif weithredwr ar Gyngor Cymru ar Alcohol a Chyffuriau eraill. Arweiniodd hynny, ym 2011, at sefydlu Stafell Fyw Caerdydd, y ganolfan gymuned enwog sy’n cynnig triniaeth, cefnogaeth ac ôl-ofal i bobl sy’n dioddef o bob math o ddibyniaethau ac ymddygiadau niweidiol eraill, a’u teuluoedd. Ymddeolodd o’r swydd honno ym 2017, a chael ei gyflogi’n syth fel Ymgynghorydd Cwnsela Arbenigol i CAIS, rhiant gwmni’r Stafell Fyw, er mwyn ymestyn y gwasanaeth i rannau eraill o Gymru a gofalu am rai mentrau penodol fel Cynnal, y gwasanaeth cwnsela i glerigwyr, gweinidogion yr efengyl, gweithwyr Cristnogol, a’u teuluoedd; Curo’r Bwci, y gwasanaeth i gamblwyr eithafol; ac Enfys, y gwasanaeth cenedlaethol i Feddygon a gweithwyr meddygol eraill. Ef hefyd sy’n arwain holl enciliadau’r Stafell Fyw. Pan unodd CAIS a dwy elusen arall i ffurio, Adferiad Recovery, ym 2021, parhaodd i ofalu am Cynnal, Enfys – ac, yn ddiweddarach, y Stafell Fyw, oedd wedi symud erbyn hynny i ran arall o Gaerdydd. Mae’n credu mai salwch ysbrydol yw dibyniaeth sy’n mynnu datrysiad ysbrydol. Wrth edrych ymlaen at ddathlu 33 mlynedd o sobrwydd yr haf hwn, dywedodd, “Er mwyn newid natur pethau, bu raid imi newid nid y digwyddiadau, ond y meddyliau rheini a greodd y digwyddiadau yn y lle cyntaf.” Mae’n awdur ar dri llyfr hyd yma, a nifer o ddramau llwyfan a radio, ac yn Gymrawd Ymddiriedolaeth Churchill. Ef hefyd ennillodd Wobr Ysbrydoli Cymru’r IWA a’r Western Mail ym 2014, ac mae’n golofnydd rheolaidd i GOLWG, y cylchgrawn wythnosol. Mae’n briod â Meira, arwres ei hunangofiant, Raslas bach a mawr! (Gomer, 2004); yn dad i Bethan a Rwth; ac yn daid balch iawn i Begw, Efa, Bobi, Jac a Jesi Iris. Mae dychweld yn awr at y Cyngor ar Alcohol a Chyffuriau Eraill, lle dechreuodd ei yrfa gwnsela, i arwain y Stafell Fyw, Cynnal, a’r fenter Ar-lein chwyldroadol, newydd, Lle I Fyw, er mwyn ymestyn y gwasanaethau hyn, nid yn unig i Gymru gyfan, ond i’r byd.He is the author of three books to date, and numerous stage and radio plays, and a Churchill Trust Fellow. He also won the IWA and Western Mail Inspire Wales Award in 2014, and is a regular columnist for GOLWG, the weekly magazine. He is married to Meira, the heroine of his autobiography, Raslas bach a mawr! (Gomer, 2004); father of Bethan and Rwth; and a very proud grandfather to Begw, Efa, Bobi, Jac and Jesi Iris. He now returns to the Council on Alcohol and Other Drugs, where he began his counselling career, to lead the Living Room, Cynnal, and the revolutionary, new Online initiative, A Place To Live, to extend these services, not just to the whole of Wales.

bottom of page